#

 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-4-686

Teitl y ddeiseb: Gosod System Goleuadau Traffig wrth Gylchfan Cross Hands

Testun y Ddeiseb: Mae ystadegyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos mai cylchfan Cross Hands yw'r 3ydd mwyaf peryglus yng Nghymru ar gyfer damweiniau traffig a phobl yn cael eu hanafu. Bydd unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardal neu yn teithio drwyddi'n rheolaidd yn gwybod pa mor beryglus ydyw erbyn hyn. Llofnodwch a rhannwch er mwyn gorfodi penderfyniad.

Cefndir

Mae'r cyfrifoldeb am briffyrdd yng Nghymru yn cael ei rannu rhwng Llywodraeth Cymru, fel yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd, ac awdurdodau lleol, sy'n awdurdodau priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd lleol.  Mae cylchfan Cross Hands yn cysylltu'r A48 â'r A476 yn Cross Hands, ac yn rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru.

Nid yw'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol (2015) yn cyfeirio at unrhyw welliannau arfaethedig wrth Gylchfan Cross Hands.  Fodd bynnag, mae'n cynnwys ymyriad lefel uchel ar fabwysiadu dull coridor at gynnal a chadw a gweithrediad y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, gan adnabod lle ceir problemau gwydnwch ar y rhwydwaith sy'n cyfiawnhau'r angen am welliannau.

Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd i Gymru. Mae hyn yn gosod y targedau diogelwch ffyrdd a'r camau sy'n cael eu cymryd i'w cyflawni.  Erbyn 2020, o'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 2004-2008 mae Llywodraeth Cymru am weld:

·         40% yn llai o bobl yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

·         25% yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

·         40% yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Mae'r fframwaith yn annog "dadansoddi llwybr", gan gynnwys ystyried cyfraddau gwrthdrawiadau ar lwybrau fel "mater allweddol o ran dewis pecyn o ymyriadau".   Wrth wneud hyn, mae'r fframwaith yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn:

·         Parhau i roi sylw i safleoedd clwstwr presennol ar gefnffyrdd ac annog awdurdodau lleol i wneud yr un peth ar eu rhwydwaith.

·         Mabwysiadu dull dadansoddi llwybr at ddiogelwch ar y ffyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd ac argymell bod awdurdodau lleol yn gwneud yr un fath.

·         Cynhyrchu canllawiau i gefnogi awdurdodau priffyrdd i fabwysiadu dull sy'n seiliedig ar lwybrau.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn hyrwyddo Parth Twf Cross Hands ar hyn o bryd, sef prosiect adfywio sy'n cynnwys pum safle datblygu sydd â'r nod o gyfrannu at dwf economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.  Mae Cross Hands yn safle cyflogaeth strategol a ddynodwyd ar gyfer y Ddinas-Ranbarth, ac mae'n cael ei adnabod yn Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe 2013-2030 (PDF 7.4MB).

I gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Parth Twf, roedd cynigion ar gyfer Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands (ELR) wedi'u cynnwys yn wreiddiol yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) Consortiwm Trafnidiaeth Integredig De Orllewin Cymru (SWWITCH). Mae'r ELR bellach wedi'i gynnwys yn y Cynllun trafnidiaeth lleol ar y Cyd ar gyfer De-orllewin Cymru, a baratowyd ar y cyd gan Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. 

Mae'r ELR yn cael ei gyflwyno fesul cam ac, unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd yn cysylltu'r A48 â'r A476 gan osgoi Cylchfan Cross Hands.  Ochr yn ochr â darparu mynediad i rai o'r Safleoedd Cyflogaeth Strategol sydd wedi'u cynnwys yn y parth twf, mae'r Cynllun trafnidiaeth lleol ar y Cyd yn datgan:

Bydd y ELR yn lleddfu tagfeydd wrth Gylchfan Cross Hands ar yr A48 sy'n rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd (TENS) yn ogystal â gwella diogelwch yn y “cyffordd 6 ffordd'' yng Ngorslas.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwletin ystadegol ar "safleoedd damweiniau clwstwr a damweiniau ffordd angheuol ar Rwydwaith Traws-Ewropeaidd Cymru - Trafnidiaeth [TEN-T]".  Y rhifyn mwyaf diweddar oedd ym mis Ebrill 2016. Mae hyn yn nodi 5 safle damweiniau clwstwr ar yr A48 rhwng Pont Abraham a Chaerfyrddin wrth Gylchfannau Pont Abraham a Cross Hands.  Dylid nodi bod hyn yn cyfeirio at y rhwydwaith ffyrdd TEN-T, sef is-set o'r rhwydwaith cefnffyrdd yn cynnwys ffyrdd o arwyddocâd strategol Ewropeaidd.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Er nad oes cynlluniau penodol yn cael eu nodi ar gyfer Cylchfan Cross Hands yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol, mae'r llythyr gan y Gweinidog blaenorol dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at Gyn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a ddarperir fel papur i'r Pwyllgor, yn dweud:

Yr ydym yn ymwybodol o'r pryderon lleol ynglŷn â'r cylchfan hwn ac wedi gwella'r marciau lonydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda golwg ar leihau gwrthdrawiadau. Rydym hefyd yn cynnal astudiaeth lliniaru gwrthdrawiadau fanwl eleni.

Mae llythyr y Gweinidog hefyd yn cyfeirio at £1.325m o gyllid Llywodraeth Cymru yn 2015/16 gan Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ELR, gyda chais pellach wedi'i gyflwyno ar gyfer 2016/17. 

Mae'r Gronfa Trafnidiaeth Leol yn ffrwd ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol.  Ym mis Mawrth 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol o £450k i gefnogi cyflwyno cyfnod 2 neu'r ELR (yn cysylltu Heol y Llew Du â'r A476).  Dyrannwyd £875k pellach ym mis Chwefror 2015. Ym mis Mawrth 2016 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol o £581.6k ar gyfer cyflwyno'r ELR ar gyfer 2016/17.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi dod o hyd i ychydig yn unig o gyfeiriadau at faterion diogelwch ar y ffyrdd wrth Gylchfan Cross Hands. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2010 ymatebodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd yn y Trydydd Cynulliad i gwestiwn ysgrifenedig (WAQ55431) ar raglenni yn y dyfodol i wella diogelwch ar y ffyrdd ar draws Gorllewin Cymru.  Er nad yw'n glir bod yr ymateb yn cyfeirio'n benodol at y gylchfan, atebodd y Gweinidog:

Cyhoeddais ar 25 Tachwedd 2009 y bwriad i wella diogelwch ar y ffyrdd ar gyffyrdd ar yr A48 rhwng Pont Abraham a Chaerfyrddin.  Mae'r rhan rhwng Pont Abraham a Cross Hands wedi cael blaenoriaeth oherwydd y gyfradd uchel o ddamweiniau; mae cynllun yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i leihau gwrthdaro yn y cronfeydd wrth gefn canolog mewn perthynas â hyn.  Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio tuag at gyhoeddi'r gorchmynion statudol angenrheidiol.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.